Rhif y ddeiseb: P-06-1251

Teitl y ddeiseb: Dylid sicrhau’r hawl i fynediad o bell i bobl anabl a niwrowahanol

Geiriad y ddeiseb: Rwy’n fyfyriwr â ffibromyalgia ac anhwylder straen ôl-drawmatig cymhleth. Roedd gallu cael mynediad at fy nghwrs o bell o fudd mawr i’m hiechyd corfforol a’m hiechyd meddwl. Mae pobl anabl a niwrowahanol eraill wedi cael profiadau tebyg a hoffent gael yr opsiwn i barhau i gael mynediad at eu cyrsiau yn y modd hwn.
Dylai’r Senedd sicrhau’r hawl i fynediad o bell at addysg. Ymhellach, dylai ddiogelu cyfrifoldeb sefydliadau addysgol yn y gyfraith i ymroi’n llwyr i greu amgylchedd hygyrch, cynhwysol. Mae gwrthod hyn yn amddifadu pobl anabl a niwrowahanol o’r bywyd a’r rhyddid rydym yn eu haeddu.

 

 


1.        Cefndir

1.1.       Penderfyniadau am ddarpariaeth addysg uwch

Sefydliadau ymreolaethol yw prifysgolion Cymru yn bennaf, gyda chryn annibyniaeth a rheolaeth dros eu darpariaeth addysg. Mae gan bob prifysgol ‘gorff llywodraethu’ y bwriedir iddo fod yn ‘gydgyfrifol ac atebol am holl weithgareddau'r sefydliad ac sy'n cymeradwyo pob penderfyniad terfynol ar faterion o bwys sylfaenol o fewn ei gylch gwaith'.

Fodd bynnag, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yw’r corff cyhoeddus sy’n gweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a darparwyr addysg uwch. Mae'n rheoleiddio lefelau ffioedd ac yn darparu cyllid ar gyfer addysgu, ymchwil ac arloesi. Mae cylch gwaith CCAUC yn cynnwys cefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch sy’n cynnig manteision cymdeithasol ac economaidd. Mae hyn yn cynnwys rôl i 'hyrwyddo arferion effeithiol a chynhwysol mewn addysg uwch'. Amcan cyntaf ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol: Mawrth 2020 - Ebrill 2024 yw 'sicrhau bod addysg uwch yng Nghymru yn gynaliadwy ac yn hygyrch i bawb a allai elwa arni ac/neu weithio yn y maes'

Rhaid i sefydliadau addysg uwch hefyd gydymffurfio â deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae cyrff llywodraethu yn gyfreithiol gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth gan y sefydliad. O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae dylestwydd ar ddarparwyr addysg a hyfforddiant a gwasanaethau cysylltiedig eraill i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer myfyrwyr anabl fel nad ydynt yn cael eu rhoi o dan anfantais sylweddol o gymharu â myfyrwyr nad ydynt yn anabl.

1.2.     Effaith y pandemig

Yn ystod y pandemig, nid oedd y rhan fwyaf o ddysgwyr, gan gynnwys myfyrwyr anabl a niwrowahanol, yn gallu dod i leoliadau addysg yn y cyfnodau pan oeddent ar gau. Fe wnaeth tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys yr arolwg Coronafeirws a Fi, nodi rhwystrau i ddysgu gartref a’r heriau ynghylch mynediad at ddyfeisiau electronig, pwysau yn amgylchedd y cartref a’r heriau eraill y mae pobl ag anghenion dysgu ychwanegol yn eu hwynebu.

Er nad oedd datrysiadau digidol yn addas i bawb, fe wnaeth y defnydd cynyddol o ddatrysiadau technolegol a digidol olygu bod rhai dysgwyr yn gallu elwa ar hygyrchedd a chyfranogiad gwell. Fe wnaeth ymchwiliad Llywodraeth Cymru i brofiadau pobl anabl ganfod fod ofn ymhlith pobl anabl y gallai'r cyfleoedd hyn leihau unwaith y gall lleoliadau addysg ailagor yn llawn. 

2.     Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Mewn gohebiaeth i’r Pwyllgor ar 9 Chwefror 2022, cydnabu Gweinidog y Gymraeg a Addysg yr heriau y mae myfyrwyr ag anableddau yn eu hwynebu, ond dywedodd, fel cyrff ymreolaethol, mai mater i golegau a phrifysgolion unigol yw sicrhau eu bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a gwneud addasiadau rhesymol. Mae’r Gweinidog yn mynd ymlaen i ddweud bod Llywodraeth Cymru serch hynny yn gweithio gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i sicrhau bod gan brifysgolion gynlluniau ehangu mynediad a chynhwysiant sy'n cydymffurfio.

Er mwyn sicrhau bod myfyrwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn cael eu cefnogi i oresgyn rhwystrau, fe wnaeth Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 sefydlu fframwaith statudol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed. O dan y system newydd, bydd pob dysgwr ag ADY yn cael 'Cynllun Datblygu Unigol' statudol. Cafodd y Ddeddf ei chychwyn yn raddol o fis Medi 2021, ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi dweud eto pryd y bydd hyn yn gymwys i ddysgwyr ym mlwyddyn 11, chweched dosbarth neu golegau addysg bellach. 

Mae Digidol 30 yn nodi fframwaith strategol deng mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu digidol yn y sector ôl-16 a’i nod yw sicrhau’r canlynol:

Bydd darparwyr dysgu ôl-16 yn integreiddio technoleg ddigidol yn ddi-dor; ac yn annog arloesedd wrth ddefnyddio dulliau cynhwysol, hygyrch a dwyieithog i wella profiad y dysgwr.

Wrth gyfeirio at Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, dywed y Gweinidog mai nod y fframwaith newydd yw sicrhau bod pob myfyriwr sydd ag ADY mewn ysgolion a cholegau yn cael 'cymorth i oresgyn rhwystrau i ddysgu ac yn gallu cyflawni’i botensial'. Fel rhan o'r strategaeth Digidol 30, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda darparwyr addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion ynghylch:

sut mae modd integreiddio ac ymgorffori technoleg ddigidol yn y ddarpariaeth er mwyn gwella profiad y dysgwr; a sut y gall dysgwyr a staff gael eu harfogi â galluoedd a hyder digidol, o dan ein fframwaith strategol deng mlynedd presennol ar gyfer dysgu digidol yn y sector ôl-16

Mae'r Gweinidog yn tynnu sylw at y cymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael mynediad at addysg uwch ac yn egluro bod lefel y cyllid yr un fath ar gyfer y rhai na allant fynychu cyrsiau 'yn bresennol' oherwydd eu hanabledd. Gall myfyrwyr cymwys hefyd gael Lwfans Myfyrwyr Anabl ar gyfer cwrs addysg uwch dynodedig yn achos cyrsiau 'yn bresennol' a dysgu o bell. O ran cael mynediad at gyllid ar gyfer addysg bellach, gall myfyrwyr sydd angen astudio o bell hefyd gael mynediad at y Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu Gymorth Grant Dysgu Llywodraeth Cymru.

Mae’r Gweinidog yn nodi ymrwymiad colegau a phrifysgolion i ehangu mynediad a chyfranogiad drwy ddarparu timau anabledd a llesiant pwrpasol a all gynnig cymorth, gan gynnwys: gwneud addasiadau rhesymol a hyrwyddo cynwysoldeb a hygyrchedd. Ers y pandemig, dywedodd y Gweinidog fod colegau wedi ehangu eu darpariaeth dysgu o bell a digidol yn sylweddol, a thynnodd sylw at fuddsoddiad o fwy na £21 miliwn a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gefnogi myfyrwyr sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol a/neu sydd ag anghenion hygyrchedd. Gan adeiladu ar waith ymchwil ac adolygiadau a wnaed ers y pandemig, cadarnhaodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru'n:

parhau â thrafodaethau gyda darparwyr dysgu a rhanddeiliaid allweddol i helpu i ddatblygu dull mwy cynlluniedig, cynaliadwy a strategol o ddysgu cyfunol.

Fodd bynnag, nododd y Gweinidog, ar gyfer rhai cyrsiau mewn peirianneg ac adeiladu ac ar gyfer y sector iechyd a gofal cymdeithasol, y bydd cyrff dyfarnu yn gofyn am oriau gorfodol yn y gweithdy neu ar leoliad.

Wrth ymateb i’r deisebydd, dywedodd y Gweinidog:

Rydym yn deall y gall mynychu coleg achosi pryder i rai myfyrwyr ac y gallai hyn fod yn arbennig o wir yn achos rhai myfyrwyr niwrowahanol. Mae gwella’r ddarpariaeth a’r cymorth ar gyfer dysgwyr niwrowahanol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac rydym yn darparu cyllid ychwanegol i golegau dreialu dulliau cwricwlwm newydd ac i staff colegau gael hyfforddiant er mwyn datblygu dulliau addysgu a chymorth arbenigol sy’n briodol ar gyfer ymgysylltu â dysgwyr niwrowahanol.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Archwiliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc yng Nghymru, gan gynnwys myfyrwyr mewn addysg bellach ac addysg uwch, rhwng mis Mawrth 2020 a mis Ebrill 2021. Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhelliad y Pwyllgor i roi ystyriaeth i fanteision dysgu digidol a chyfunol ar draws y sector addysg ôl-16 er mwyn gwella profiad dysgu a deilliannau addysgol dysgwyr.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.